08/01/08 gan Aran
Un o’r llyfrau sydd wedi cael cryn effaith arna i yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf ydy ‘Collapse: How Societies Choose to Fail or Succeed‘ gan y polymath difyr Jared Diamond. Cewch weld fideo diddorol iawn o Jared Diamond yn fan hyn oddi wrth y wefan bwysig ‘The Long Now‘.
Ynddi, mae Diamond yn edrych […]
Darllen y cyfraniad llawn...
Categori: Dadansoddi, Cymunedau, Hanes, Amgylchedd, Copa Olew, Gwleidyddiaeth | 5 wedi ymateb »
07/01/08 gan Aran
Cefais sgwrs diddorol iawn heddiw gyda pherchennog siop ym Mhwllheli, un arall sydd yn poeni bod y dref wedi cael ei Nadolig gwaethaf ers talwm iawn ar gyfer masnachwyr lleol. Roedd o’n credu bod y Cyngor a’r Siambr Fasnach ill dau yn gadael Pwllheli i lawr - roedd yn anhapus iawn am y ffaith […]
Darllen y cyfraniad llawn...
Categori: Cymunedau, Busnes | Beth ydy dy farn di? »
05/01/08 gan Aran
Mi aeth Catrin a finnau i weld ‘August Rush’ ym Mhwllheli nos Iau diwethaf ‘ma, a roedd yn braf iawn cael camu allan o’r byd arferol i fewn i ryw fath o stori tylwyth teg - un mymryn bach yn fwy creadigol na’r arfer, hefyd. Dw i ddim yn un sydd yn dadlau nad […]
Darllen y cyfraniad llawn...
Categori: Ffilmiau, Mwydro | Comments Off
03/01/08 gan Aran
Mae’r rhan helaeth o bobl dw i’n eu nabod yn ymateb i gwestiynau fel ‘Ydy ein cymdeithas ni yn gynaladwy?’ neu ‘Ydy ein cymdeithas yn rhedeg yn dda fel y cyfryw?’ trwy ddatgan yn glir bod nhw ddim yn gweld ein cymdeithas ni yn llwyddiannus, a bod nhw ddim yn ei gweld hi’n gynaladwy ‘chwaith.
Ond […]
Darllen y cyfraniad llawn...
Categori: Bywyd, Cymunedau, Amgylchedd, Copa Olew | 3 wedi ymateb »
02/01/08 gan Aran
Isio ymbellhau oddi wrth y byd am ryw ychydig, wedi’r holl firi a fu dros y pythefnos diwethaf?
Cam 1 - Darllen ‘The Long Emergency‘ gan James Howard Kunstler.
Cam 2 - Darllen ‘Endgame - Volume 1‘ gan Derrick Jensen.
Cam 3 - Darllen ‘The Road‘ gan Cormac McCarthy.
Iawn, mae hynna’n dipyn o waith darllen, digon teg - […]
Darllen y cyfraniad llawn...
Categori: Bywyd, Copa Olew | Beth ydy dy farn di? »
12/12/07 gan Aran
Ia, dw i dal ar hyn - ac yn debyg o fod am beth amser. Clywais i heddiw fod y Gymdeithas wedi tynnu eu gwrthwynebiad i’r adroddiad sy’n mynd gerbron Cyngor Gwynedd yfory, gan nodi bod y newidiadau yn agor i fyny cyfnod o ymgynghori manwl fel sydd wedi bod angen. Dw i’n […]
Darllen y cyfraniad llawn...
Categori: Cymunedau, Addysg | Beth ydy dy farn di? »
11/12/07 gan Aran
Mae dydd Iau yn ddiwrnod mawr arall yn y trafodaeth am ddyfodol ysgolion Gwynedd. Bydd yr adroddiad presennol yn mynd gerbron y Cyngor, a bydd cryn dipyn o brotestwyr y tu allan i’r swyddfeydd. Os na fydd yr adroddiad yn cael ei dderbyn, bydd cryn dipyn o ansicrwydd am y ffordd ymlaen yng […]
Darllen y cyfraniad llawn...
Categori: Bywyd, Cymunedau, Addysg | 6 wedi ymateb »
02/12/07 gan Aled
Mae dyfodiad y papur newydd dyddiol Cymraeg, Y Byd, wedi ei ohirio unwaith yn rhagor, er cymaint y cyhoeddusrwydd a gafwyd yn gynharach eleni am ei lansio ar Fawrth 1af 2008. A gydag adroddiad Toni Bianchi ar gyflwr presennol y wasg Gymraeg eto i gyrraedd desg Rhodri Glyn Thomas, Y Gweinidog Diwylliant, a phroses dendro […]
Darllen y cyfraniad llawn...
Categori: Y Gymraeg, Llenyddiaeth, Democratiaeth, Busnes | 2 wedi ymateb »
27/11/07 gan Aran
Gen i ffrind sydd yn gwneud cerddoriaeth drum’n’bass (peidiwch â gweld bai arna i os mai nid felly mae rhywun i fod i’w sgwennu!) a dw i newydd glywed fod o a’i wraig yn ystyried symud i Gymru o fewn y ddwy neu dair mlynedd nesaf - o America, felly mae rhyw fath o fomentwm […]
Darllen y cyfraniad llawn...
Categori: Cerddoriaeth | 11 wedi ymateb »
26/11/07 gan Aran
Clywais i’r trafodaeth ar raglen Gwilym Owen heddiw ynglŵn â chau ysgolion bychain, a hynny yng Ngwynedd yn arbennig ar y funud. Mae Cymuned yn edrych ymlaen at drafod y pwnc gyda Chyngor Gwynedd, ac wrthi’n edrych i fewn i’r sefyllfa ar frys braidd - mae’n amlwg bod llawer o bobl yn gweld hyn […]
Darllen y cyfraniad llawn...
Categori: Cymunedau, Addysg | Beth ydy dy farn di? »