Hyn, llall ac arall

Gwareiddiad - dewis goroesi, neu ddewis methu?

08/01/08 gan Aran

Un o’r llyfrau sydd wedi cael cryn effaith arna i yn y flwyddyn neu ddwy ddiwethaf ydy ‘Collapse: How Societies Choose to Fail or Succeed‘ gan y polymath difyr Jared Diamond. Cewch weld fideo diddorol iawn o Jared Diamond yn fan hyn oddi wrth y wefan bwysig ‘The Long Now‘.
Ynddi, mae Diamond yn edrych […]

Darllen y cyfraniad llawn...

Categori: Dadansoddi, Cymunedau, Hanes, Amgylchedd, Copa Olew, Gwleidyddiaeth | Comments Off

Busnesau lleol yn erbyn busnesau mawrion

07/01/08 gan Aran

Cefais sgwrs diddorol iawn heddiw gyda pherchennog siop ym Mhwllheli, un arall sydd yn poeni bod y dref wedi cael ei Nadolig gwaethaf ers talwm iawn ar gyfer masnachwyr lleol. Roedd o’n credu bod y Cyngor a’r Siambr Fasnach ill dau yn gadael Pwllheli i lawr - roedd yn anhapus iawn am y ffaith […]

Darllen y cyfraniad llawn...

Categori: Cymunedau, Busnes | Comments Off

Y ffilm ‘August Rush’

05/01/08 gan Aran

Mi aeth Catrin a finnau i weld ‘August Rush’ ym Mhwllheli nos Iau diwethaf ‘ma, a roedd yn braf iawn cael camu allan o’r byd arferol i fewn i ryw fath o stori tylwyth teg - un mymryn bach yn fwy creadigol na’r arfer, hefyd. Dw i ddim yn un sydd yn dadlau nad […]

Darllen y cyfraniad llawn...

Categori: Ffilmiau, Mwydro | Comments Off

Sut fath o ddyfodol sydd o’n blaenau?

03/01/08 gan Aran

Mae’r rhan helaeth o bobl dw i’n eu nabod yn ymateb i gwestiynau fel ‘Ydy ein cymdeithas ni yn gynaladwy?’ neu ‘Ydy ein cymdeithas yn rhedeg yn dda fel y cyfryw?’ trwy ddatgan yn glir bod nhw ddim yn gweld ein cymdeithas ni yn llwyddiannus, a bod nhw ddim yn ei gweld hi’n gynaladwy ‘chwaith.
Ond […]

Darllen y cyfraniad llawn...

Categori: Bywyd, Cymunedau, Amgylchedd, Copa Olew | Comments Off

Ryseit am wythnos ddistaw

02/01/08 gan Aran

Isio ymbellhau oddi wrth y byd am ryw ychydig, wedi’r holl firi a fu dros y pythefnos diwethaf?
Cam 1 - Darllen ‘The Long Emergency‘ gan James Howard Kunstler.
Cam 2 - Darllen ‘Endgame - Volume 1‘ gan Derrick Jensen.
Cam 3 - Darllen ‘The Road‘ gan Cormac McCarthy.
Iawn, mae hynna’n dipyn o waith darllen, digon teg - […]

Darllen y cyfraniad llawn...

Categori: Bywyd, Copa Olew | Beth ydy dy farn di? »

Oes modd cynnal cymunedau heb ysgolion?

12/12/07 gan Aran

Ia, dw i dal ar hyn - ac yn debyg o fod am beth amser. Clywais i heddiw fod y Gymdeithas wedi tynnu eu gwrthwynebiad i’r adroddiad sy’n mynd gerbron Cyngor Gwynedd yfory, gan nodi bod y newidiadau yn agor i fyny cyfnod o ymgynghori manwl fel sydd wedi bod angen. Dw i’n […]

Darllen y cyfraniad llawn...

Categori: Cymunedau, Addysg | Beth ydy dy farn di? »

Cymunedau heb ysgolion

11/12/07 gan Aran

Mae dydd Iau yn ddiwrnod mawr arall yn y trafodaeth am ddyfodol ysgolion Gwynedd. Bydd yr adroddiad presennol yn mynd gerbron y Cyngor, a bydd cryn dipyn o brotestwyr y tu allan i’r swyddfeydd. Os na fydd yr adroddiad yn cael ei dderbyn, bydd cryn dipyn o ansicrwydd am y ffordd ymlaen yng […]

Darllen y cyfraniad llawn...

Categori: Bywyd, Cymunedau, Addysg | Comments Off

Crynhoi er mwyn cenhadu

02/12/07 gan Aled

Mae dyfodiad y papur newydd dyddiol Cymraeg, Y Byd, wedi ei ohirio unwaith yn rhagor, er cymaint y cyhoeddusrwydd a gafwyd yn gynharach eleni am ei lansio ar Fawrth 1af 2008. A gydag adroddiad Toni Bianchi ar gyflwr presennol y wasg Gymraeg eto i gyrraedd desg Rhodri Glyn Thomas, Y Gweinidog Diwylliant, a phroses dendro […]

Darllen y cyfraniad llawn...

Categori: Y Gymraeg, Llenyddiaeth, Democratiaeth, Busnes | Beth ydy dy farn di? »

Beth ydy’r Gymraeg am drum’n'bass?!

27/11/07 gan Aran

Gen i ffrind sydd yn gwneud cerddoriaeth drum’n’bass (peidiwch â gweld bai arna i os mai nid felly mae rhywun i fod i’w sgwennu!) a dw i newydd glywed fod o a’i wraig yn ystyried symud i Gymru o fewn y ddwy neu dair mlynedd nesaf - o America, felly mae rhyw fath o fomentwm […]

Darllen y cyfraniad llawn...

Categori: Cerddoriaeth | Comments Off

Dyfodol ysgolion bychain

26/11/07 gan Aran

Clywais i’r trafodaeth ar raglen Gwilym Owen heddiw ynglŵn â chau ysgolion bychain, a hynny yng Ngwynedd yn arbennig ar y funud. Mae Cymuned yn edrych ymlaen at drafod y pwnc gyda Chyngor Gwynedd, ac wrthi’n edrych i fewn i’r sefyllfa ar frys braidd - mae’n amlwg bod llawer o bobl yn gweld hyn […]

Darllen y cyfraniad llawn...

Categori: Cymunedau, Addysg | Comments Off

« Blaenorol